Canlyniadau Chwilio - Thompson, Alan
Alan Thompson
| dateformat = dmy}}Cyflwynydd radio a cherddor o Gymru oedd Alan Thompson (1963 – 28 Medi 2017).
Yn yr 1980au roedd yn un o sylfaenwyr y band Peppermint Parlour o Gaerdydd, gan chwarae'r gitâr, ganu ac ysgrifennu caneuon i'r band.
Ymunodd a BBC Radio Wales yn 1991 gan weithio fel gohebydd ac yna cyflwynydd ar y sioe adloniant nos Wener, Rave a ddarlledwyd ar Radio Wales ac ar rwydwaith Radio Five. Bu'n gweithio ar y sioe am dair blynedd gyda'i gyd-gyflwynwr Rob Brydon. Aeth ymlaen i gyflwyno nifer o raglenni cerddoriaeth ar yr orsaf, yn fwyaf diweddar The Evening Show, a ddaeth i ben yn Awst 2013. Ers hynny, roedd yn cyflwyno sioe ar nos Sul.
Ar deledu, cyflwynodd ddwy gyfres o ''Don't Look Back'' ar BBC Wales a cyflwynodd Wobrau Celf BBC Wales.
Bu farw ar ôl salwch byr yn 54 mlwydd oed. Darparwyd gan Wikipedia