Canlyniadau Chwilio - Smith, Matt
Matt Smith
Actor llwyfan a theledu Seisnig yw Matthew Robert "Matt" Smith (ganwyd 28 Hydref 1982). Ar ôl cyfnod fel pêl-droediwr ifanc, daeth Smith yn actor wedi iddo ddioddef o anaf i'w gefn. Daeth ei berfformiad cyntaf yn y ddrama ''Murder in the Cathedral'' fel rhan o'r Theatr Ieuenctid Cenedlaethol. Daeth yn actor proffesiynol yn 2003, gan serennu ochr yn ochr â Christian Slater yn ''Fresh Kills'' a ''Swimming With Sharks''.Ei rôl deledu amlycaf cyntaf oedd fel Jim Taylor yn addasiad y BBC o ''The Ruby in the Smoke'' a ''The Shadow in the North'' gan Phillip Pullman yn 2003. Cafodd ei rôl deledu flaenllaw cyntaf yn 2007 pan chwaraeodd ran Danny yng nghyfres y BBC ''Party Animals''. Yn 2009, dewiswyd Smith fel yr unfed actor ar ddeg i chwarae rhan y Doctor yn y gyfres deledu Brydeinig, ''Doctor Who'', yr actor ieuengaf i dderbyn y rôl ar y pryd. Gadawodd y gyfres ar ddiwedd ei rhaglen Dydd Nadolig yn 2013. Ers ''Doctor Who'' y mae wedi mynd yn ei flaen i bortreadu ymgorfforiad corfforol Skynet yn ''Terminator Genisys'' yn 2015 ac o 2016 i 2017, i chwarae rhan y Tywysog Philip, Dug Caeredin yn nrama hanesyddol Netflix, ''The Crown''. Darparwyd gan Wikipedia