Canlyniadau Chwilio - Rogers, Richard, 1965-
Richard Rogers
Pensaer Eidalaidd-Brydeinig oedd Richard George Rogers, Arglwydd Rogers o Riverside (23 Gorffennaf 1933 – 18 Rhagfyr 2021).Ganwyd Richard George Rogers yn Florence (Tuscany) i deulu Eingl-Eidalaidd. Roedd ei dad, William Nino Rogers (1906–1993), yn gefnder i'r pensaer Eidalaidd Ernesto Nathan Rogers. Symudodd ei gyn-deidiau o Sunderland i Fenis tua 1800, gan fudo yn ddiweddarach i Trieste, Milan a Florence. Yn 1939 penderfynodd ei dad ddod nôl i Loegr.
Roedd Rogers yn fwyaf enwog am ei waith ar Ganolfan Georges Pompidou ym Mharis, adeilad Lloyd's a'r Millennium Dome yn Llundain, adeilad y Senedd yng Nghaerdydd, ac adeilad Llys Hawliau Dynol Ewrop yn Strasbourg. Enillodd wobr Medal Aur RIBA, Medal Thomas Jefferson, Gwobr Stirling RIBA, Medal Minerva a'r Wobr Pritzker. Roedd yn Uwch Bartner yng nghwmni penseiri Rogers Stirk Harbour + Partners, a adwaenid yn gynt fel y Richard Rogers Partnership.
Ymddeolodd ym Medi 2020, yn 87 mlwydd oed. Bu farw brynhawn Sadwrn, 18 Rhagfyr 2021. Darparwyd gan Wikipedia