Canlyniadau Chwilio - Pindar
Pindar
Bardd Groegaidd oedd Pindar (Hen Roeg: , “Pindaros”), (c. 522 – 443 CC). Ystyrir ef yn un o feirdd mwyaf Groeg.Ganed Pindar ym mhentref Cynoscephalae yn Boeotia, yn fab i Daiphantus and Cleodice. Priodiodd Megacleia, a chawsant ddwy ferch, Eumetis a Protomache, a mab, Daiphantus. Dywedir iddo farw yn Argos.
Teithiai Pindar ar hyd a lled y byd Groegaidd, o un noddwr i’r llall. Gellir casglu iddo dreulio amser yn llys Hiero I, unben Siracusa, lle cyfansoddodd farddoniaeth i glodfori buddugoliaethau Hiero a Theron yn y Gemau Olympaidd. Ymwelodd â Delphi ac Athen hefyd, ac ymddengys o’i weithiau iddo ymweld ag ynys Aegina. Roedd ganddo dŷ yn ninas Thebai, a chofnodir i’r tŷ hwnnw gael ei arbed gan Alecsander Fawr o barch i’r bardd pan gipiodd ef y ddinas.
Cyfansoddodd Pindar nifer o wahanol fathau o farddoniaeth: gweithiau (Paean) ac emynau eraill ar gyfer gwyliau crefyddol, cerddi moliant i bobl amlwg, marwnadau a cherddi i ddathlu buddugoliaethau yn y Gemau Olympaidd. Dyddia’r cynharaf o’i gerddi sydd ar glawr o tua 498 CC, yn dathlu buddugoliaeth Hippocleas o Thessalia yn y Gemau Olympaidd y flwyddyn honno. Darparwyd gan Wikipedia