Canlyniadau Chwilio - Pearson, Mike

Lester B. Pearson

Diplomydd, gwleidydd, ac hanesydd o Ganada oedd Lester Bowles "Mike" Pearson PC OM CC OBE (23 Ebrill 189727 Rhagfyr 1972) a wasanaethodd yn bedwaredd Brif Weinidog Canada ar ddeg o 22 Ebrill 1963 hyd 20 Ebrill 1968.

Ganwyd ym mwrdeistref York, sydd bellach yn rhan o ddinas Toronto, a chafodd ei fagu mewn sawl tref yn ne Ontario. Gweinidog Methodistaidd oedd ei dad, ac yn hwyrach ymaelododd y teulu ag Eglwys Unedig Canada. Gwasanaethodd ym Myddin Canada a'r Corfflu Hedfan Brenhinol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Dychwelodd i orffen ei radd o Goleg Victoria ym Mhrifysgol Toronto, ac enillodd ysgoloriaeth i Goleg Sant Ioan, Rhydychen. Wedi iddo ennill ei radd meistr, darlithiodd ar bwnc hanes ym Mhrifysgol Toronto yn y cyfnod 1924–28. Ymunodd â gwasanaeth llysgenhadol Canada ym 1928 a chymerodd swydd prif ysgrifennydd yn yr Adran Faterion Tramor. Gwasanaethodd ar ddau gomisiwn brenhinol ym 1931, ac aeth i Lundain ym 1935 yn gynghorydd i swyddfa Uchel Gomisiynydd Canada i'r Deyrnas Unedig.

Fe'i alwyd yn ôl i Ganada ym 1941, a gwasanaethodd yn Llysgennad Canada i'r Unol Daleithiau yn y cyfnod 1945–46. Cafodd ei ethol i Dŷ'r Cyffredin ym 1948 yn aelod Rhyddfrydol dros Ddwyrain Algoma, a chafodd ei benodi yn ysgrifennydd gwladol dros faterion tramor yn llywodraeth Louis Saint Laurent. Pearson oedd pennaeth dirpwyaeth Canada i'r Cenhedloedd Unedig o 1948 i 1956, a llywydd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig o 1952 i 1953. Fe gynrychiolodd Canada adeg sefydlu NATO ym 1949, a chadeiriodd y sefydliad hwnnw ym 1951. Derbyniodd Wobr Heddwch Nobel ym 1957 am ei ymdrechion i ddod â therfyn i argyfwng Suez y flwyddyn gynt, trwy ei gynllun i greu llu o'r Cenhedloedd Unedig i gadw'r heddwch yn yr ardal a galluogi'r goresgynwyr i encilio.

Fe olynodd Saint Laurent yn bennaeth ar y Blaid Ryddfrydol ac felly'n Arweinydd yr Wrthblaid ym 1958, a daeth yn brif weinidog pan lwyddodd i ffurfio llywodraeth leiafrifol yn sgil etholiad 1963. Yn ystod ei brifweinidogaeth, cyflwynwyd gofal iechyd i bawb, benthyciadau i fyfyrwyr, cynllun pensiynau cenedlaethol, rhaglen cymorth i deuluoedd, a rhagor o fudd-daliadau i'r genoed. Sefydlwyd Urdd Canada a'r Comisiwn Brenhinol dros Ddwyieithrwydd a Deuddiwylliant, a mabwysiadwyd baner y ddeilen fasarn a'r anthem genedlaethol "O Canada/Ô Canada". Daeth â therfyn i'r gosb eithaf yng Nghanada, a gwrthododd Pearson i ddanfon lluoedd ei wlad i Ryfel Fietnam. Ymddiswyddodd Pearson ym 1968 a gadawodd ei sedd yn y Senedd, gan estyn awenau ei blaid i Pierre Trudeau.

Darlithiodd ar hanes a gwyddor gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Carleton yn Ottawa, ac yno bu hefyd yn ganghellor o 1969 hyd ei farwolaeth. Cychwynnodd ar ysgrifennu ei hunangofiant. Collodd un o'i lygaid i ganser, a bu farw o'r afiechyd hwnnw yn 75 oed. O ganlyniad i gampau ei lywodraeth a'i waith arloesol yn y Cenhedloedd Unedig, ystyrid Pearson yn aml fel un o Ganadiaid mwyaf dylanwadol yr 20g ac un o brif weinidogion gorau y wlad. Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1