Canlyniadau Chwilio - Palacios, Luis

Luis Palacios

Mae Luis David Palacios (ganwyd 1983 yn Sinaloa, Mecsico) yn fardd, ysgrifennwr, cyfieithydd, cerddor a golygydd Mecsicanaidd sydd yn arbenigo yn astudiaethau cerddorol.

Mae wedi ennill nifer o wobrau yn cynnwys prif wobr Mecsico am farddoniaeth - ''Premio Nacional de Poesía Raúl Rincón Meza'' yn 2019 am ei lyfr ''Sigo siendo Miles Davis'' (Dal i ddilyn Miles Davis).

Mae hefyd wedi ennill y wobr ''Juegos Florales Nacionales Universitarios 2015'' am ei lyfr ''Un árbol donde el sueño'' (Coeden ble mae’n cysgu).

Mae ei waith wedi’i gyfieithu i Gymraeg, Saesneg, Rwmaneg, Portwgeeg ac Eidaleg ac mae wedi perfformio ei farddoniaeth mewn nifer fawr o wledydd yn cynnwys Lloegr, Colombia, Ecuador a Nicaragua. Yn 2017 ymwelodd â Chymru i gymryd rhan yng Ngŵyl Farddoniaeth Ryngwladol Gogledd Cymru.

Mae hefyd yn cyflwyno podlediad ''La historia hablada del jazz'' am hanes cerddoriaeth Jazz. bawd|500px|David Palacios, yn darllen barddoniaeth, Pier Bangor, 2017 Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1