Canlyniadau Chwilio - Mendus, Susan
Susan Mendus
| dateformat = dmy}}Athronydd ac academydd o Gymru sy'n arbenigo mewn athroniaeth wleidyddol yw'r Athro Susan Lesley "Sue" Mendus, CBE , CBE, FLSW (ganwyd 25 Awst 1951). Mae hi'n athro emerita mewn Athroniaeth Wleidyddol ym Mhrifysgol Efrog.
Cafodd Susan Coker ei geni yn Abertawe, yn ferch i John a Beryl Coker. Cafodd ei magu yn Waun Wen, Abertawe, a chafodd ei haddysg yn ysgolion cynradd Waun Wen a Mynydd Bach.
Astudiodd y clasuron ac athroniaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan raddio yn 1973. Ar ôl graddio, aeth i Neuadd yr Arglwyddes Margaret, Rhydychen am BPhil yn 1975.
Priododd hi ag Andrew Mendus a chymryd ei henw priod, Susan Mendus.
Ym 1975, penodwyd Mendus yn ddarlithydd mewn athroniaeth ym Mhrifysgol Efrog. Trosglwyddodd i'r Adran Wleidyddiaeth ym 1986, a daeth yn Athro Athroniaeth Wleidyddol iddi yn 1995. Rhwng 1995 a 2000, hi oedd Cyfarwyddwr Rhaglen Astudiaethau Goddefgarwch Morrell ym Mhrifysgol Efrog. Roedd yn Is-lywydd (Gwyddorau Cymdeithasol) yr Academi Brydeinig rhwng 2008 a 2012.
Mae Mendus yn Gymrodor Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae hi'n aelod o fyrddau golygyddol y ''British Journal of Political Science'', y ''Journal of Philosophy of Education'', a'r ''Journal of Applied Philosophy'' . Darparwyd gan Wikipedia