Canlyniadau Chwilio - McNamara, Robert
Robert McNamara
Gweithredwr busnes o'r Unol Daleithiau oedd Robert Strange McNamara (9 Mehefin 1916 – 6 Gorffennaf 2009) a wasanaethodd fel Ysgrifennydd Amddiffyn yr Unol Daleithiau yng ngweinyddiaethau'r arlywyddion John F. Kennedy a Lyndon B. Johnson o 1961 hyd 1968. Roedd ganddo rhan flaenllaw wrth ddwysháu ymyrraeth yr Unol Daleithiau yn Rhyfel Fietnam. Wedi iddo adael y llywodraeth ffederal, roedd yn Llywydd Banc y Byd o 1968 hyd 1981. Roedd McNamara hefyd yn gyfrifol am sefydlu dadansoddi systemau ym maes polisi cyhoeddus, a ddatblygodd yn ddisgyblaeth dadansoddi polisi.Ym 1995 cyhoeddodd ei hunangofiant, ''In Retrospect: The Tragedy and Lessons of Vietnam''. Darparwyd gan Wikipedia