Canlyniadau Chwilio - McCullers, Carson
Eich chwiliad - McCullers, Carson - ddim yn cyfateb ag unrhyw adnoddau
Carson McCullers
Nofelydd, dramodydd ac awdures straeon byrion o'r Unol Daleithiau oedd Carson McCullers (Lula Carson Smith) (19 Chwefror, 1917 – 29 Medi, 1967).Cafodd ei geni yn Columbus, Georgia. Priododd Reeves McCullers ym 1937, a wnaethont ysgaru a phriodi eto. Roedd Carson a Reeves yn ddeurywiol. Roedd y ddau ohonynt hefyd yn ysmygu ac yn yfed alcohol yn drwm. Lladdodd Reeves ei hunan ym 1953. Ar ôl bywyd o iechyd gwael, bu farw Carson McCullers o strôc ym 1967.
Gelwir ei harddull yn aml yn Gothig De'r Unol Daleithiau. Roedd ei gwaith yn enwog am bortreadu trefi unig ac adfeiliedig, ac ymddieithriad cymdeithasol a rhywiol eu trigolion. Yn ôl Michiko Kakutani, beirniad llenyddol ''The New York Times'', prif thema ei ffuglen yw "unigrwydd unigolion ynysedig a'u hawydd llafurus am berthynas". Galwodd Gore Vidal waith McCullers yn "un o'r ychydig o lwyddiannau digonol ein diwylliant eilradd". Darparwyd gan Wikipedia