Canlyniadau Chwilio - Masson, Ursula
Ursula Masson
Ysgolhaig ac awdur o Gymru oedd Ursula Masson (née O'Connor, 1945 – 7 Ebrill 2008). bawd|Ursula Masson, Diwrnod Rhyngwladol Menywod, 8 Mawrth 2003, Yr Hen Lyfrgell, CaerdyddGanwyd Ursula Masson i'r gymuned Wyddelig ym Merthyr Tudful ac aeth i Ysgol Ramadeg Castell Cyfarthfa. Astudiodd hanes y gymuned Wyddelig ym Merthyr fel rhan o'i gradd Meistr ym Mhrifysgol Keele, wedi iddi raddio o Brifysgol Caerdydd. Wedi iddi gwblhau ei hastudiaethau academaidd, bu'n gweithio fel newyddiadurwraig, adref yn ne Cymru ac i'r Sydney Morning Herald yn Awstralia rhwng 1969 a 1972, cyn dychwelyd i addysgu oedolion yn Abertawe. Daeth yn ddarlithydd hanes ym Mhrifysgol Morgannwg yn 1994, gan ddod yn ffigwr amlwg ym maes astudiaethau hanes menywod. Bu Ursula Masson, ynghyd â'r Athro Deirdre Beddoe, yn allweddol yn sefydlu Archif Menywod Cymru / Women's Archive of Wales yn 1998. Roedd hefyd yn aelod o bwyllgor Grŵp y De-Orllewin o Rwydwaith Hanes Menywod (a enwyd wedi hynny yn Grŵp a De Orllewin a Chymru), ac yn cyd-olygu ''Llafur'', cylchrawn Llafur: Cymdeithas Hanes Pobl Cymru.Yn ystod ei chyfnod fel Cadeirydd Archif Menywod Cymru, cynigiodd y syniad o gynnal cyfres o Sioeau ar Daith Hanes Menywod Cymru. Byddai pobl yn gael eu gwahodd i ddod â deunydd yn ymwneud â hanes cymdeithasol bywydau menywod i gael eu ffotograffu a'u sganio i'w harddangos ar wefan Casgliad y Werin Cymru, ac mewn nifer o achosion yn cael eu cyflwyno ar adnau i archifau cyhoeddus yng Nghymru. Ym Mhrifysgol Morgannwg, sefydlodd Ganolfan Astudiaethau Rhywedd yng Nghymru. Parhaodd ei gwaith hymchwil ynghyd â'i haddysgu, gan olygu papurau Cymdeithasol Ryddfrydol Menywod Aberdar 1891–1910, a chwblhau doethuriaeth ar y testun ''For Women, for Wales and for Liberalism: Women in Liberal Politics in Wales, 1880–1914'', a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru ar ôl ei marwolaeth.
Bu'n cydweithio yn agos â Jane Aaron a Gwasg Honno, Gwasg Menywod Cymru, ar yr imprint Clasuron Honno – er mwyn adfer i brint weithiau menywod o Gymru a oedd yn ysgrifennu yn ystod y 19g a'r 20g. Golygodd ddau o lyfrau'r gyfres, sef: Elizabeth Andrews, ''A Woman's Work is Never Done'' (2006) a ''The Very Salt of Life: Welsh Women's Political Writings from Chartism to Suffrage'' (2007).
Bu farw yn 2008 a chynhelir Darlith Goffa Ursula Masson gan y Ganolfan Astudiaethau Rhywedd yng Nghymru yn flynyddol ar 8 Mawrth, sef Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Dadorchuddwyd Plac Porffor er cof amdani a osodwyd ar Lyfrgell Ganolog ym Merthyr Tudful ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, 8 Mawrth 2019. Darparwyd gan Wikipedia