Canlyniadau Chwilio - Loomis, Roger Sherman
Roger Sherman Loomis
Ysgolhaig o'r Unol Daleithiau oedd yn arbenigo yn y chwedlau am y brenin Arthur oedd Roger Sherman Loomis (31 Hydref 1887 – 11 Hydref 1966), yn ysgrifennu fel R. S. Loomis.Ganed ef yn Yokohama, Japan, i rieni Americanaidd, ac addysgwyd ef yn Lakeville, Connecticut. Enillodd radd B.A. o Williams College yn 1909, ac M.A. o Brifysgol Harvard yn 1910. Bu ar staff Prifysgol Illinois o 1913 hyd 1918, yna'n dysgu ym Mhrifysgol Columbia, lle bu'n aelod o'r adran Saesneg hyd 1958.
Roedd ganddo ddiddordeb arbennig mewn mytholeg Geltaidd a'i ddylanwad ar y chwedlau am Arthur, yn enwedig y chwedlau am y Greal Santaidd. Darparwyd gan Wikipedia