Canlyniadau Chwilio - Kay, Peter
Peter Kay
Mae Peter John Kay (ganwyd 2 Gorffennaf, 1973) yn ddigrifwr, ysgrifennwr, cynhyrchydd ac actor Seisnig. Mae ei waith yn cynnwys ''That Peter Kay Thing'' (2000), ''Phoenix Nights'' (2001), ''Max and Paddy's Road to Nowhere'' (2004), ''Britain's Got the Pop Factor...'' (2008) a chynhyrchiadau annibynnol eraill.Ganwyd Kay yn Farnworth, Swydd Gaerhirfryn, a mynychodd Ysgol Uwchradd Mynydd San Joseph. Gadawodd yr ysgol gyda un TGAU yng Nghelf. Wedi iddo adael, cafodd swyddi amrywiol gan gynnwys gweithio mewn ffatri papur tŷ bach, archfarchnad Netto a Neuadd Fingo, a ysbrydolodd rhaglenni neu ddigwyddiadau yn That Peter Kay Thing. Dechreuodd gwrs gradd ym Mhrifysgol Lerpwl ond ni allai ymdopi â'r gwaith ysgrifenedig ac felly gadawodd. Aeth ymlaen i astudio Diploma Cenedlaethol Uwch yn Perfformio yn y Cyfryngau ym Mhrifysgol Salford a chwblhaodd y cwrs. Roedd y cwrs hwn yn cynnwys hiwmor sefyll i fyny, rhywbeth y rhagorai Kay ynddo. Cafodd ei brofiad cyntaf o berfformio hiwmor sefyll i fyny mewn cystadleuaeth ym Manceinion, a diddorol yw nodi mai cyflwynydd y noson oedd Dave Spikey a ysgrifennodd Phoenix Nights ar y cyd a Kay. Enillodd Kay y gystadleuaeth, gan faeddu ei gyd-ddigrifwr Johnny Vegas. Darparwyd gan Wikipedia