Canlyniadau Chwilio - Davies, Richard
Richard Davies
:''Am enghreifftiau eraill o bobl o'r enw Richard Davies, gweler Richard Davies (gwahaniaethu).''Esgob a chyfieithydd oedd Richard Davies (?1501 – 7 Tachwedd 1581). Fe'i ganed yn y Gyffin, ger tref Conwy lle roedd ei dad Dafydd ap Gronw, yn gurad yn eglwys St Bened. Yn ystod ei yrfa eglwysig bu'n Esgob Llanelwy a Thyddewi. Fe'i cofir yn bennaf am ei waith ar y cyd â William Salesbury yn cyfieithu'r Testament Newydd i'r Gymraeg. Roedd yn ewythr i'r ysgolhaig Siôn Dafydd Rhys (John Davies). Darparwyd gan Wikipedia