Canlyniadau Chwilio - Davies, Mervyn

Mervyn Davies

Chwaraewr Rygbi'r Undeb o Gymru oedd Thomas Mervyn Davies (9 Rhagfyr 1946 - 15 Mawrth 2012). Enillodd 38 o gapiau dros Gymru fel wythwr.

Cafodd Davies ei eni yn Abertawe. Ymunodd Davies â Chymry Llundain ym 1968, ac yn ddiweddarach symudodd i Abertawe. Enillodd ei gap cyntaf i Gymru ym 1969 yn erbyn yr Alban, ac aeth ymlaen i chwarae mewn 38 gêm yn olynol i Gymru gan sgorio dau gais. Yn ystod y cyfnod yma enillodd Cymru'r Gamp Lawn ddwywaith a'r Goron Driphlyg deirgwaith.

Aeth ar daith gyda'r Llewod Prydeinig i Seland Newydd ym 1971 ac i Dde Affrica ym 1974, gan chwarae mewn wyth gêm brawf i gyd. Mewn cyfanswm o 46 gêm ryngwladol i Gymru a'r Llewod, dim ond naw gwaith y bu mewn tîm a gollodd.

Diweddwyd ei yrfa gan waedlif y tu mewn i'w graniwm, anaf a ddioddefodd pan oedd yn gapten Abertawe yn erbyn Pontypŵl mewn gêm ym 1976.

Ystyrir Mervyn Davies fel yr wythwr gorau fu'n chwarae i Gymru erioed, ac un o chwaraewyr gorau Cymru mewn unrhyw safle.

Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1