Canlyniadau Chwilio - Davies, Keith
Keith Davies
Gwleidydd Cymreig yw Keith Davies. Roedd yn Aelod Cynulliad Llafur dros Lanelli rhwng Mai 2011 a Ebrill 2016.Bu Davies yn gyfarwyddwr addysg Cyngor Sir Gaerfyrddin, ond collodd ei swydd yn 2000 pan unwyd yr Adran addysg gyda'r Adran Datblygu Cymunedol. Roedd yn un o chwech wnaeth gynnig am y swydd newydd ond ni chafodd ei benodi.
Yn 2004 cafodd ei ethol yn Gynghorydd Sir i Lafur dros ward Hengoed. Collodd y sedd i Blaid Cymru yn 2008.
Yng ngwanwyn 2012 cafodd Pwyllgor Safonau a'r Comisiynydd Safonau fod Keith Davies wedi dwyn anfri ar y Cynulliad Cenedlaethol ac wedi torri'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau Cynulliad yn dilyn ffrae rhyngddo fe a staff gwesty pum seren yng Nghaerdydd yn oriau mân y bore. Darparwyd gan Wikipedia