Canlyniadau Chwilio - Bataille, Georges

Georges Bataille

Athronydd, llenor, a beirniad o Ffrainc oedd Georges Bataille (10 Medi 18979 Gorffennaf 1962) a fu'n ymwneud ag erotiaeth, cyfriniaeth, ac afresymoldeb yn ei amryw weithiau. Ysgrifennodd nifer o lyfrau, gan gynnwys nofelau, barddoniaeth, ac ysgrifau. Mae ei waith yn cael ei ystyried yn golyn rhwng gwahanol dueddiadau ym meddwl dechrau'r 20g, sef ôl-foderniaeth a dadadeiladaeth.

Ganed ef yn Billom, yn ''département'' Puy-de-Dôme yng nghanolbarth Ffrainc, yng nghyfnod y Drydedd Weriniaeth. Fe'i hyfforddwyd yn archifydd yn yr École des Chartes, ysgol baleograffeg ym Mharis. Gweithiodd yn llyfrgellydd ac yn ganoloesydd yn Bibliothèque nationale de France hyd at 1942, a fe'i penodwyd yn geidwad Llyfrgell Orléans ym 1951. Sefydlodd y cylchgrawn llenyddol ''Critique'' ym 1946, a byddai'n golygu'r hwnnw am 16 mlynedd, hyd at ei farwolaeth, ym Mharis, yn 64 oed.

Ymhlith ei nofelau mae'r stori erotig ''Histoire de l'oeil'' (1928). Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    Literature and evil / gan Bataille, Georges

    Cyhoeddwyd 1957
    Awduron Eraill: “...Bataille, Georges...”
    Llyfr