Canlyniadau Chwilio - Assange, Julian
Julian Assange
| dateformat = dmy}}Newyddiadurwr a rhaglennydd meddalwedd Awstraliaidd yw Julian Assange (ganed 3 Gorffennaf 1971, Townsville, Queensland, Awstralia), sy'n gyfarwyddwr WikiLeaks, gwefan sy'n cyhoeddi gwybodaeth gudd.
Sefydlodd Assange wefan WikiLeaks yn 2006 ac mae'n aelod o fwrdd ymgynghorol y wefan. Fel prif lais cyhoeddus y wefan, mae Assange wedi cael sylw rhyngwladol, yn enwedig ar ôl i'r wefan gyhoeddi cyfres o ddogfennau milwrol Americanaidd am y rhyfeloedd yn Irac ac yn Affganistan, gan gynnwys gwybodaeth a roddwyd iddynt gan Chelsea Manning. Ers hynny ymchwiliodd Unol Daleithiau America i'w waith a chafwyd honiad gan ddwy ferch o Sweden yn ei erbyn. O ganlyniad, ers Mehefin 2012, mae wedi derbyn lloches wleidyddol yn Llysgenhadaeth Ecwador, gyda heddlu Lloegr yn cadw gwyliadwraeth ar yr adeilad. Ar 19 Mai 2017, gollyngodd prif erlynydd Sweden y cyhoeddiadau yn ei erbyn.
Ar 11 Ebrill 2019, tynnwyd lloches Assange yn ôl yn dilyn cyfres o anghydfodau gydag awdurdodau Ecwador. Gwahoddwyd yr heddlu i'r llysgenhadaeth yr un diwrnod, ac fe'i harestiwyd. Dedfrydwyd i 50 wythnos yn y carchar (allan o uchaf gosb o flwyddyn) am dorri mechnïaeth yn 2012, ac mae cyfreithiwr yn ceisio cael Sweden i ail agor ei ymchwiliad mewn i honiadau o drais rhywiol.
Mae Assange wedi byw mewn sawl gwlad. Yn achlysurol, mae'n ysgrifennu am faterion sy'n ymwneud â rhyddid y wasg, sensoriaeth, a newyddiaduraeth ymchwiliol, ac mae wedi ennill sawl gwobr newyddiadurol. Darparwyd gan Wikipedia