Canlyniadau Chwilio - Aidoo, Ama Ata
Ama Ata Aidoo
| dateformat = dmy}} Awdur, bardd, dramodydd ac academydd o Ghana oedd Christina Ama Ata Aidoo (23 Mawrth 1942 – 31 Mai 2023).Cafodd Ama Ata Aidoo ei geni yn Abeadzi Kyiakor, ger Saltpond, yn Rhanbarth Canolog Ghana. Mae rhai ffynonellau wedi datgan iddi gael ei geni ar 31 Mawrth 1940. Roedd ganddi efaill, Kwame Ata.
Cyhoeddwyd ei drama gyntaf, ''The Dilemma of a Ghost'', ym 1965. Roedd Aidoo y dramodydd benywaidd Affricanaidd cyntaf i'w chyhoeddi. Fel nofelydd, enillodd Wobr Awduron y Gymanwlad yn 1992 gyda'i nofel hi, ''Changes''. Roedd hi'n Ysgrifennydd Addysg Ghana rhwng 1982 a 1983 o dan weinyddiaeth PNDC Jerry Rawlings . Yn 2000, sefydlodd Sefydliad Mbaasem yn Accra i cefnogi awduron benywaidd Affricanaidd. Darparwyd gan Wikipedia