Canlyniadau Chwilio - Addams, Jane

Jane Addams

| dateformat = dmy}}

Awdures Americanaidd oedd Jane Addams (6 Medi 1860 - 21 Mai 1935) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel newyddiadurwr, athronydd, cymdeithasegydd, a ffeminist. Ystyrir hi fel y person a grisialodd y cysyniad o 'waith cymdeithasol', a bod angen i lywodraeth ofalu am rai pobl o fewn cymdeithas. Sefydlodd "Hull House" yn Chicago, cartref i'r digartref, yr enwocaf, efallai yn yr UDA; ac yn 1920 sefydlodd yr ACLU (''American Civil Liberties Union''). bawd|chwith|Llun diddyddiad o Jane Addams yn ferch ifanc.

Yn 1931, hi oedd y fenyw Americanaidd gyntaf i ennill Gwobr Heddwch Nobel. Mae hi'n cael ei chydnabod fwyfwy fel athronydd pragmataidd, ac fel yr "athronydd benywaidd cyhoeddus cyntaf yn hanes yr Unol Daleithiau".

Fe'i ganed yn Cedarville, Illinois a bu farw o ganser yn Hull House; fe'i claddwyd yn Illinois.

Yn yr "Oes Flaengar" (yr hyn a elwir yn ''"Progressive Era"''), pan nododd llywyddion fel Theodore Roosevelt a Woodrow Wilson eu bod yn ddiwygwyr a gweithredwyr cymdeithasol, Addams oedd un o'r diwygwyr mwyaf blaenllaw. Helpodd America i fynd i'r afael â materion a oedd yn peri pryder i famau, fel anghenion plant, iechyd cyhoeddus lleol, a heddwch y byd. Yn ei thraethawd 'Defnyddio Menywod mewn Llywodraeth y Ddinas', (''Utilization of Women in City Government'') nododd Addams y cysylltiad rhwng gweithrediadau llywodraeth y wlad a'r aelwyd, gan fynnu fod cysylltiad rhang glanweithdra, carffosiaeth dinesig, addysg plant ayb a rôl y ferch, yn draddodiadol, yn y cartref. Felly, roedd y rhain yn faterion y byddai gan fenywod fwy o wybodaeth amdanynt na dynion, felly roedd menywod angen y bleidlais i leisio'u barn yn y ffordd orau.

Pe bai menywod yn gyfrifol am lanhau eu cymunedau, dywedodd, a'u gwneud yn lleoedd gwell i fyw, yna roedd angen iddynt allu pleidleisio i wneud hynny'n effeithiol. Daeth Addams yn fodel i fenywod y dosbarth canol, a ddechreuodd ddilyn ei syniadau, gan wirfoddolodd i wella eu cymunedau. Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 8 canlyniadau o 8
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    Twenty years at Hull House / gan Addams, Jane

    Cyhoeddwyd 2016
    An electronic book accessible through the World Wide Web; click to view
    Electronig eLyfr
  2. 2

    Twenty years at Hull House / gan Addams, Jane

    Cyhoeddwyd 2016
    An electronic book accessible through the World Wide Web; click to view
    Electronig eLyfr
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8