Canlyniadau Chwilio - Żeromski, Stefan, 1864-1925

Stefan Żeromski

Nofelydd, awdur straeon byrion, a dramodydd Pwyleg oedd Stefan Żeromski (14 Hydref 186420 Tachwedd 1925) sy'n nodedig am ei nofelau naturiolaidd sy'n ymwneud â phroblemau cymdeithasol.

Ganed ef i deulu tlawd, o dras uchelwrol, yn Strawczyn, Teyrnas Pwyl, yn Ymerodraeth Rwsia. Methodd ennill ei ddiploma o'r ysgol uwchradd, felly bu'n rhaid iddo astudio yn y brifysgol filfeddygol yn Warsaw. Gweithiodd yn diwtor mewn plastai cefn gwlad ac yna'n llyfrgellydd cynorthwyol yn y Swistir. Dychwelodd i Wlad Pwyl i weithio yn Llyfrgell Zamoyski yn Warsaw o 1897 i 1904. Ymsefydlodd yn Nałęczów ym 1905, ac ymgyrchodd dros addysg boblogaidd. Fe'i harestiwyd gan yr awdurdodau Rwsiaidd ym 1908. Symudodd i Baris o 1909 i 1912 cyn dychwelyd i Warsaw, ac yno bu farw yn 61 oed.

Bu sawl esiampl o'i ffuglen, gan gynnwys ei ddau gasgliad cyntaf o straeon byrion a gyhoeddwyd ym 1895, yn ymwneud â chymdeithas Gwlad Pwyl yn sgil Gwrthryfel Ionawr 1863 yn erbyn y Rwsiaid. Dychwelodd at y thema honno yn ei stori fer "Echa leśne" (1905) a'r nofel delynegol ''Wierna rzeka'' (1912). Mae ei nofel gyntaf, y nofel hunangofiannol ''Syzyfowe prace'' (1897), yn portreadu profiad disgyblion o Bwyliaid o Rwsieiddio diwylliannol yn yr ysgol. Ymhlith ei nofelau eraill mae ''Uroda życia'' (1913), ''Ludzie bezdomni'' (1900), ''Popioły'' (3 cyfrol, 1904) - a gwnaed yn ffilm gan Andrzej Wajda yn ddiweddarach, a ''Przedwiośnie'' (1925). Ysgrifennodd ddramâu hefyd, gan gynnwys ''Uciekła mi przepióreczka'' (1924). Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    The coming spring gan Żeromski, Stefan, 1864-1925

    Cyhoeddwyd 2007
    An electronic book accessible through the World Wide Web; click to view
    Electronig eLyfr