Isaac Asimov

Llenor toreithiog Americanaidd oedd Isaac Asimov (2 Ionawr 19206 Ebrill 1992) sydd yn nodedig am ei ffuglen wyddonol.

Ganed ym mhentref Petrovichi, Rwsia, i deulu Iddewig, a symudodd i Unol Daleithiau America pan oedd yn 3 oed. Cafodd ei fagu yn Brooklyn, Efrog Newydd, a graddiodd o Brifysgol Columbia ym 1939. Gwasanaethodd yng Ngorsaf Arbrofion Awyrennol Llynges yr Unol Daleithiau yn Philadelphia yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Wedi iddo ennill ei ddoethuriaeth mewn cemeg o Brifysgol Columbia ym 1948, ymunodd â chyfadran Prifysgol Boston i addysgu biocemeg.

Dechreuodd ysgrifennu yn ystod ei arddegau, a chyhoeddwyd ei straeon cynnar mewn cylchgronau gwyddonias megis ''Amazing Stories'' ac ''Astounding Science-Fiction''. Cesglir ei straeon am robotiaid yn y gyfrol ''I, Robot'' (1950), sydd yn cynnwys ei "dair deddf roboteg" enwog. Ei gampwaith yw'r gyfres "Foundation" (cyhoeddwyd fel triawd ym 1951–3), sydd yn dilyn cwymp yr Ymerodraeth Alaethol, ac ymdrech y cymeriad Hari Seldon i achub y gwareiddiad hwnnw drwy gynllun daroganol "seicohanes". Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 6 canlyniadau o 6 ar gyfer chwilio 'Asimov, Isaac', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    Asimov's guide to the Bible : the Old Testament / gan Asimov, Isaac

    Cyhoeddwyd 1968
    Llyfr
  2. 2

    Fantastic voyage. gan Asimov, Isaac

    Cyhoeddwyd 1966
    Llyfr
  3. 3

    Asimov's guide to the Bible : the Old Testament / gan Asimov, Isaac

    Cyhoeddwyd 1968
    Llyfr
  4. 4

    Fantastic voyage. gan Asimov, Isaac

    Cyhoeddwyd 1966
    Llyfr
  5. 5

    Frontiers : new discoveries about man and his planet, outer space, and the universe / gan Asimov, Isaac, 1920-

    Cyhoeddwyd 1989
    Llyfr
  6. 6

    Frontiers : new discoveries about man and his planet, outer space, and the universe / gan Asimov, Isaac, 1920-

    Cyhoeddwyd 1989
    Llyfr