Geoffrey Ashe

Awdur Seisnig sydd wedi ysgrifennu nifer o lyfrau am y brenin Arthur yw Geoffrey Ashe (29 Mawrth 192330 Ionawr 2022).

Ganed Ashe yn Llundain a treuliodd rai blynyddoedd yng Nghanada, gan raddio ym Mhrifysgol British Columbia, Vancouver, cyn mynd ymlaen i Brifysgol Caergrawnt.

Ei lyfr cyntaf oedd ''King Arthur's Avalon: The Story of Glastonbury,'' (1957). Ef yw prif gynheilydd y theori mai Riothamus oedd yr Arthur hanesyddol, syniad a gyflwynodd am y tro cyntaf mewn erthygl yn y cylchgrawn ''Speculum'' yn 1981, ac yn ddiweddarach mewn llyfrau, ''The Discovery of King Arthur'' (1985) a ''The Landscape of King Arthur'' (1987). Cred y gall fod cymeriad Arthur fod wedi dod o nifer o ffynonellau, ond mai'r sail i stori Sieffre o Fynwy am ymgyrchoedd Arthur yng Ngâl oedd ymgyrch Riothamus yno yn erbyn y Fisigothiaid.

Bu Ashe ynglŷn a'r cloddio archaeolgeol yn Cadbury Castle yng Ngwlad yr Haf yn 1966-70 dan arweiniad Leslie Alcock. Hawliodd yr hynafiaethydd John Leland yn y 16g mai yma yr oedd safle Camelot. Darganfuwyd fod amdiffynfeydd wedi eu hail-adeiladu yma yn niwedd y 5g. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2 ar gyfer chwilio 'Ashe, Geoffrey', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    Kings and Queens of early Britain / gan Ashe, Geoffrey

    Cyhoeddwyd 1990
    An electronic book accessible through the World Wide Web; click to view
    Electronig eLyfr
  2. 2

    Kings and Queens of early Britain / gan Ashe, Geoffrey

    Cyhoeddwyd 1990
    An electronic book accessible through the World Wide Web; click to view
    Electronig eLyfr